Hergest - Glanceri

 

  Hanes Recordiau Lluniau Caneuon Memorabilia  

Hergest

Hergest - Grŵp yr haf, grwp arfodir y Gorllewin (Ceredigion), grwp gitarau acwstig a harmoni – trwy gydol y 70au, cyfnod hynod o gyffrous ac arloesol yn y byd canu roc Cymraeg, roedd Hergest yn un o’r grwpiau mwya poblogaidd ar lwyfan ac ar record. Yn y stiwdio, cynhyrchwyd dwy E.P. a phedair record hir – a mae caneuon fel ‘Niwl ar fryniau Dyfed’, ‘Harbwr Aberteifi’ ac ‘Ugain Mlynedd yn Ol’ yn dal yn fyw heddi’.

Mae’r aelodau unigol yn parhau i greu a pherfformio cerddoriaeth newydd, yn dal yn ‘ffrindiau bore oes’ a dros y chwarter canrif ers i’r grwp roi’r gorau i berfformio gyda’i gilydd, mae yna sawl aduniad wedi bod, felly pwy sydd i ddweud fod y stori ar ben?

Yma yng Nglanceri mae cartre’r grwp - ei hanes, ei gerddoriaeth a’i ysbryd -  a’r unigolion fuodd yn ran ohono fe.  Dewch mewn – mae’r dwr yn gynnes braf.

 

Hergest 1976

 

Hergest cartwn

 Pam Glanceri?

Enw un o ganeuon enwoca’ Hergest yw ‘Glanceri’, hefyd teitl record hir gynta’r grwp. Ond yn fwy na hynny, ‘Glanceri’ oedd cartre go iawn y grwp yng nghanol y 70au – fflat uwchben siop grefftau, hanner canllath o for gwyllt a phrydferth Bae Ceredigion. Yma y cyfansoddwyd a pherffeithiwyd nifer o ganeuon cofiadwy. Yr enw gorau posib, felly, i gartre newydd Hergest

 

 

 | english pages | ebost | cysylltiadau | llyfr gwestai |

© twndish 2006