Cymdeithas y Ddrama Gymraeg Abertawe


 

 

Amdanon ni

Mae’r Gymdeithas wedi bod yn difyrru cynulleidfaoedd a hybu’r ddrama Gymraeg yn ardal Abertawe ers 1919. Ond does dim byd hynafol yn perthyn iddi - gyda chanmlwyddiant ar y gorwel, mae hi mor fywiog ag erioed.

Cynhelir prif gyflwyniad y Gymdeithas – drama hir – bob Gwanwyn a hynny bellach yn Theatr Dylan Thomas, Abertawe, gyda’r cynhyrchiad diweddaraf, Hywel A, yn llwyddiant mawr.

Datblygiad diweddar yw mynd allan i’r gymuned – lle bynnag y daw gwahoddiad – gyda sioe Noson o Adloniant, sef drama un act ynghyd ag eitemau theatrig amrywiol. Mae’r derbyniad i’r nosweithiau hyn wedi bod yn frwd iawn.

 

 

Beth am ymuno â ni?

Ry’n ni bob amser yn awyddus i groesawu aelodau newydd i’n plith ni – falle bod rhai ohonoch chi eisiau actio neu am roi cynnig ar gyfarwyddo; eraill â diddordeb mewn colur neu wisgoedd, neu’n mwynhau chwarae ‘roadie’ wrth yrru fan a llwytho offer.

Mae rhai’n mwynhau’r ochor weinyddol: casglu hysbysebion, llunio’r rhaglen, dosbarthu posteri, cysylltu a’r wasg – mae yna amrywiaeth eang o bethau i’w gwneud, a mae’r criw i gyd yn hapus i gynorthwyo’i gilydd yn ol yr angen. A mae ‘na lot fawr o hwyl i’w gael. Cymdeithas go iawn yw hi.

 

 

Cysylltwch â ni

post@dramaabertawe.com

 

Eiri Evans (Ysgrifennydd)

Griff Williams (Cyfarwyddwr Artistig)

Geraint Davies (Rheolwr Cynhyrchu)

 

 

 

twndish 2009