Am y newyddion diweddaraf ewch YMA I wrando ar gerddoriaeth Geraint ewch  YMA

 

 

Prynwch Fel 'Na Mae gyda PayPal yma   

FEL ‘NA MAE [Recordiau Glanceri RG001]

 

Mae Geraint Davies wedi bod yn ffigwr amlwg yn y byd canu Cymraeg ers dros 40 mlynedd gyda grwpiau fel Gwenwyn, Hergest, Y Newyddion ac yn fwy diweddar Mynediad am Ddim, yn ogystal â chyfansoddwr caneuon i bobol fel Ray Gravell ac, wrth gwrs, Mistar Urdd. Pan gyhoeddwyd CD Mynediad, Hen Hen Bryd, yn ddiweddar, Geraint oedd cyfansoddwr pedair o’r caneuon a fe hefyd gyd-gynhyrchodd y record.

Mae 11 cân ar Fel ‘na mae, ei ail CD unigol, cymysgedd o ffrwyth dychymyg a’r mwy personol. Mae yna dinc hiraethus yma ac acw ond ‘dyw hi ddim yn gasgliad o ganeuon trist. ‘Beth sy’ ‘ma yw cyfres o ddarluniau o berspectif dyn yn ei oed a’i amser’ medd Geraint, ‘Dwi ‘mhell o fod yn un-ar-hugain bellach a ma’r caneuon yn adlewyrchu hynny ar un lefel, ond gobeithio bod ysbryd bywiog y bachan un-ar-hugain yn dal yno’n rhywle’.

Ynghyd â chaneuon newydd sbon gan Geraint ei hun, mae yna ambell olwg dros ei ysgwydd: y gân werin Lisa Dalysarn oedd y gynta i Hergest erioed ei pherfformio ar deledu nol yn nechrau’r 70au, ond chafodd hi erioed ei recordio tan nawr (pwt ohoni o leia’); mae Caroline yn perthyn i’r un cyfnod, cân a adawyd ar ei hanner gan Elgan Philip Davies yn ’75 ac a orffennwyd gan Geraint yn ddiweddar. A mae fersiwn newydd a gwahanol iawn o’r glasur Hergestaidd gan Delwyn Siôn, Dinas Dinlle. Cywaith tipyn mwy diweddar yw Penlan rhwng Geraint a’r Prifardd Robat Powell ac ar Gwres ceir cyfraniad lleisiol arbennig gan y gantores ifanc Miriam Isaac.

Mae ‘na ganeuon yn gofyn y ‘cwestiynau mawr’ fel Y ffordd a Fel ‘na mae ei hun (yr ateb, wrth gwrs yw 42), ochor yn ochor â thynnu coes Twrci (tynnu coes – twrci....e?e?... a wel....) yn barod ar gyfer y Nadolig.

 Casgliad amrywiol, acwstig, gwerinol ei naws yw Fel ‘na mae, gyda’r pwyslais ar gitarau a harmonďau lleisiol. Recordiwyd y cyfan gan yr athrylithgar Myfyr Isaac yn Stiwdio’r Efail ger y Bontfaen a chyhoeddir ar label Recordiau Glanceri.

 

 

 

 

Geraint Davies     

   

Prynwch Geraint Davies gyda PayPal yma   

 

 

GERAINT DAVIES  [Diwedd Y Gwt DYG CD073]

 

Dyma CD cynta Geraint Davies fel unigolyn, er fod ganddo fe flynyddoedd o brofiad yn recordio a pherfformio gyda grwpiau fel Hergest a Mynediad am Ddim. 

Deg can sydd yn y casgliad hwn, naw gan Geraint ei hun a’r llall yn fersiwn acwstig o glasur Eliffant, ‘Lisa Lan’.  Os oes thema i’r CD, perthynas a chyfeillgarwch yw honno: mae’r gan gynta’ - ‘Paradwys Gudd’ - yn mawrygu cyfeillion da lle bynnag y bon’ nhw a’r ola’ - ‘Sefyll’ - yn cyfeirio at gyfaill wynebodd drychineb bersonol yn hollol arwrol. Mae ‘Dylan a John’ yn dathlu dau gyfaill arall a adawodd y byd yn rhy fuan tra bo ‘Catherine Ann’ yn deyrnged i fenyw fuodd yn ddylanwad aruthrol ar Geraint yn ei ddyddiau cynnar. Er fod ‘na dinc o dristwch, pwysleisio llawenydd cyfeillgarwch y mae’r caneuon hyn i gyd. 

Yn y gorffennol y lleolir ‘Ymylon y Byd’, hanes ddychmygol mordaith o’r oesoedd a fu, ond yma hefyd, mae hiraeth am deulu a chyfeillion yn lleddfu’r canu ‘shanty’. Ar y llaw arall, y dyfodol yw thema ‘Twll yn y To’: mae ‘na broblem ar y gorwel, ond beth yn union yw ei natur hi?  Mae ‘Eira Man’ yn edrych ar ramant a pheryg gwlad dan drwch gwyn, a mae ‘na ganeuon serch hefyd – ‘Fel Ni’, can am ansicrwydd hyd yn oed o fewn perthynas gwbwl hapus ac ‘Un Wen’, anthem bosib i bob hen ddyn grympi. 

Amrywiaeth o arddulliau  roc ysgafn gyda chyffyrddiadau o roc gwlad a phop sydd yma, y cyfan wedi’u recordio yn Stiwdio Waunuchaf, Caerfyrddin gyda Geraint Griffiths yn cynhyrchu. Fe hefyd sy’n gyfrifol am y trefniannau cerddorol ac am fwyafrif llethol yr offerynnau ar y CD.

 

   

| cysylltiadau | ebost | english |

© twndish 2014