|
Dyma brif bwyntiau'r cylchlythyr diweddaraf (#5 Rhagfyr 2009). Os nad ydych wedi ei dderbyn mewn e-bost cysylltwch â'r Gynghrair
Yr
Adroddiad (copi
Saesneg yn unig ar hyn o bryd)
Mae
Y GYNGHRAIR bellach wedi’i ffurfioli yn gwmni cyfyngedig drwy warant
sydd yn meddwl fod y cwmni yn agored i dderbyn aelodau yn swyddogol. Mae'n
hanfodol bwysig fod cyfansoddwyr, cyhoeddwyr ac awduron Cymraeg yn ymuno
yn Y GYNGHRAIR er mwyn creu cwmni sydd wir yn medru ymateb i'r sefyllfa
bresennol ac unrhyw ddatblygiadau yn y dyfodol i gynrychioli ein
buddiannau fel diwydiant cerddoriaeth yma yng Nghymru. Bydd
pob aelod yn cael un bleidlais mewn Cyfarfodydd Cyffredinol. I
ymaelodi a wnewch chi lawr lwytho'r ffurflen, ei argraffu, ei lenwi a'i
ddanfon at swyddfa gofrestredig y cwmni -
Y GYNGHRAIR Cyf, TOPS, Y Sgwâr, Pentraeth, Môn, LL75 8AZ. D'oes dim ffi ymaelodi. Eich unig gyfrifoldeb fel aelod fyddai talu £1 petai’r cwmni’n dod i ben.
| e-bost |
© y gynghrair 2008
|
|